Yn Harbwr Corc

This is a traditional Welsh sea shanty. The English translation is as follows:  “In Cork Harbour I was, one morning at the dawn, at the dawn, O my dear lads, one morning at the dawn, And everyone was cheerful, there was no one there who was sad… O Richard, said Maurice, and Maurice, he said Tom… ‘We'd better reef the sails now, before the storm it comes’... ‘O dearest Tom and Maurice, 'tis threatening wind and rain… The white mares they're coming out’... and Tom he answers 'hush..'. The wind will veer northwards, soon the weather will be fair…. And our ship will be moving, with a bone in her teeth….”

Yn harbwr Corc yr oeddwn, ryw fore gyda'r dydd, Gyda'r dydd,

O hogia bach, ryw fore gyda'r dydd,

A phawb oedd yno'n llawen, 'doedd yno neb yn brudd, neb yn brudd,

O hogia bach, 'doedd yno neb yn brudd.

O Rhisiart, medde Morus, a Morus, medde Twm, medde Twm,

O hogie bach, a Morus, medde Twm:

Well inni riffio'r hwylie, cyn del y tywydd trwm, tywydd trwm,

O hogie bach, cyn del y tywydd trwm.

O Twm Co bach a Morus, mae'n bygwth gwynt a glaw, gwynt a glaw,

O hogie bach mae'n bygwth gwynt a glaw;

Daw'r cesyg gwynion allan—a Twm yn ateb 'taw', ateb 'taw',

O hogie bach, a Twm yn ateb 'taw'.

Daw'r gwynt yn ôl i'r gogledd, cawn eto dywydd teg, tywydd teg,

O hogie bach, cawn eto dywydd teg;

A bydd y llong yn cerdded, ag asgwrn yn ei cheg, yn ei cheg,

O hogie bach, ag asgwrn yn ei cheg.